Mae Dyfan Searell yn ddylunydd amlddisgyblaethol medrus sy'n byw yn Eryri, Gogledd Cymru. Beth bynnag yw'r sialens, daw Dyfan â dull dyfeisgar llachar. Gall ddeall cysyniad yn gyflym a diffinio i chi y camau sy'n debygol eu hangen i'w ddatblygu. Gall eich helpu chi gymryd syniad a gwneud iddo ddigwydd.

 

Astudiodd Dyfan Peirianneg Dylunio Cynnyrch yn LJMU, ac mae ganddo bellach brofiad mewn llawer o ddiwydiannau. Mae wedi gwneud gwaith ar gyfer gwmnïau rhyngwladol, wedi helpu sefydlu sawl busnes newydd, ennill nifer o wobrau arloesi, a mae chynhyrchion mae wedi gweithio arnynt yn cael eu gwerthu dros y byd.

Ar ôl gweithio mewn ymgynghoriaeth busnes diwydiannol, ymgynghoriaeth dylynio mewnol o ansawdd, ac yna saith mlynedd yn sefydlu a rhedeg ymgynghoriaeth peirianneg busnes a dylunio, mae wedi dod yn gyfarwydd â sawl math o fusnes a sut i wneud iddynt lwyddo gyda chymorth a reolaeth ymarferol.

Yn 2008, ymgorfforiodd gwmni ei hun AMALGAM8 Ltd i allu iddo gynhyrchu dodrefn, arddangosfeydd a prototeipiau ei hun. Mae hefyd yn gweithio efo rhwydwaith eang o gysylltiadau a chyflenwyr.

Mae Dyfan ar hyn o bryd yn rhannu ei amser rhwng bod yn reolwr dylunio a hwyluso ar gyfer prosiect Inventorium ym Mhrifysgol Bangor, gwirfoddoli ar gyfer y cynllun busnes mentor wales, a nifer o phrosiectau amrywiol eraill.

Mae'i diddordebau a'i waith ar hyn o bryd yn ei arwain at faesydd ddigidol, addysg, iechyd, ffotograffiaeth a chynaliadwyedd...

proffeil

DYLUNIO GWNEUD DATRYS

ALL COPYRIGHT, DESIGN RIGHTS, AND RIGHTS TO IMAGES RESERVED TO DYFAN SEARELL AND AMALGAM8 LTD 2012. PLEASE CONTACT US IF YOU WOULD LIKE TO REUSE.

info@searell.com     07815 867428